Mae dau o gefnogwyr Clwb Pêl-droed Southampton wedi cael eu harestio wedi iddyn nhw sarhau Emiliano Sala yn ystod y gêm yn erbyn Caerdydd ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 9).
Dyma’r ornest gyntaf ers i’r heddlu gadarnhau mai corf yr Archentwr, ymosodwr yr Adar Gleision, a gafodd eu darganfod ar awyren yn y môr oddi ar ynysoedd y Sianel.
Fe wnaeth yr awyren yr oedd yn teithio ynddi ddiflannu ar Ionawr 21. Mae’r peilot David Ibbotson yn dal ar goll.
Mae llefarydd ar ran y clwb yn dweud y byddan nhw’n gwahardd unrhyw un sy’n sarhau’r chwaraewr.
Teyrnged
Roedd munud o dawelwch yn Stadiwm St. Mary’s cyn y gic gyntaf, a’r dorf bryd hynny’n hollol ddistaw.
Ond fe ddaeth i’r amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddarach fod rhywrai yn y dorf wedi bod yn gwneud ystumiau sarhaus.
Enillodd Caerdydd yr ornest o 2-1, wrth i Kenneth Zohore rwydo yn nhrydedd munud yr amser a ganiateir am anafiadau.
Dywed llefarydd ar ran Southampton y byddan nhw’n gwneud “safiad cryf iawn” wrth ddelio ag unrhyw un oedd ynghlwm wrth y digwyddiad.