Yr Eidal 15–26 Cymru

Mae Cymru’n parhau’n ddi-guro ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl trechu’r Eidial y Stadiwm Olympaidd yn Rhufain brynhawn Sadwrn.

Cael a chael a oedd hi ond Cymru a aeth â hi er gwaethaf deg newid mewn gêm gymharol agos.

Cymru a oedd tîm gorau’r hanner cyntaf ond mynd am y pyst a wnaethant ar bob cyfle wrth adeiladu 12 pwynt o fantais yn yr hanner awr cyntaf.

Roedd y tîm cartref o fewn sgôr ar yr egwyl serch hynny diolch i gais Braam Steyn, y blaneasgellwr yn hyrddio drosodd am gais haeddiannol i’r Eidalwyr

Caeodd Tomasso Allan y bwlch i ddau bwynt yn gynnar yn yr ail hanner ond ar ôl treulio llawer o amser yn hanner eu gwrthwynebwyr fe ddaeth cais cyntaf Cymru o’r diwedd wrth i Josh Adams groesi.

Gyda Gareth Anscombe ar y cae fel eilydd, fe arweiniodd cic gelfydd y maswr at gais i Owen Watkin ac roedd y fuddugoliaeth yn ymddangos y ddiogel ddeuddeg munud o’r diweddd.

Fe gaeodd Edoardi Padovani’r bwlch wedi hynny ond rhy ychydig rhy hwyr a oedd hi, 15-26 y sgôr terfynol.

.

Yr Eidal

Ceisiau: Braam Steyn 34, Edoardi Padovani 75’

Trosiadau: Tommy Allan 36’

Cic Gosb: Tommy Allan 44’

.

Cymru

Ceisiau: Josh Adams 54’, Owen Watkin 69’

Trosiadau: Dan Biggar 55’, Gareth Anscombe 70’

Ciciau Cosb: Dan Biggar 2’, 15’, 19’, 30’