Mae adeilad wyth llawr wedi cwympo yn ninas Istanbwl, gan ladd o leiaf un person a dal nifer o bobol eraill yn gaeth y tu mewn.
Roedd yna 43 o bobol yn byw yn y 14 fflat yn yr adeilad, a’r tri llawr uchaf wedi’u hadeiladu yn anghyfreithlon, yn ôl yr awdurdodau.
Dyw hi ddim yn glir faint o bobol sydd ar goll yng nghanol y rwbel.
Mae gweithwyr achub, meddygon a’r awdurdodau yn gweithio gyda’i gilydd i geisio dod o hyd i unrhyw un sydd yn sownd ar y safle ar ochr Asiaidd y ddinas, yn ardal Kartal.
Mae tri o bobol wedi cael eu cario allan o’r rwbel, ac maen nhw wedi cael eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau.
Mae lluniau o gamerâu diogelwch sydd wedi’u darlledu ar sianel HaberTurk yn dangos nifer o bobool, yn cynnwys plant ysgol gyda rycsacs ar eu cefnau, yn rhedeg o’r adeilad cyn iddo ddymchwel ac achosi cwmwl mawr o lwch.