Mae’r grŵp hawliau dynol, Amnest Rhyngwladol, yn galw’n gryf ar Lywodraethau gwledydd y gorllewin i roi diwedd ar roi arfau i bartïon sydd yn cwffio yn Yemen.
Daw hyn yn dilyn adroddiadau bod yr arfau hyn yn cyrraedd grwpiau eithafol, gan gynnwys rhai sydd yn rhan o’r rhyfel yno.
Dywedodd ymchwilydd rheolaeth arfau a hawliau dynol Amnesty, Patrick Wilcken, bod arfau gwledydd Prydain a’r Unol Daleithiau yn cyrraedd dwylo al Qaeda a milwyr y Wladwriaeth Islamaidd.
Daw hyn yn dilyn adroddiadau diweddar gan Ohebwyr Arabaidd am Newyddiaduraeth Ymchwiliol yn Amman.
Yn ôl Patrick Wilcken, mae’r gefnogaeth yma i’r Emiradau Arabaidd Unedig yn “gwaethygu’r argyfwng dyngarol ac yn peri bygythiad cynyddol i’r boblogaeth.
Mae’r glymblaid a arweinir gan Sawdi Arabia, sy’n cynnwys yr Emiradau Arabaidd Unedig, wedi bod mewn rhyfel yn Yemen gyda gwrthryfelwyr Houthi, sydd ar ochr Iran, ers 2015.
Nid yw Sawdi Arabia wedi gwneud sylw yn dilyn y cyhuddiadau am yr arfau.
Cefndir
Roedd adroddiadau fis Awst diwethaf bod cytundebau dros arfau wedi cael eu gwneud rhwng clymblaid Sawdi Arabia a grŵp al Qaeda – a bod yr arfau hyn yn cyrraedd grwpiau sy’n cwffio yn Yemen.
Mae’r Almaen, yr Iseldiroedd a Norwy wedi gwahardd cytundebau arfau i aelodau o’r glymblaid ond mae gwledydd Prydain a’r Unol Daleithiau yn parhau i roi arfau iddyn mhw.
Mae’r rhyfel yn Yemen wedi arwain at filoedd o farwolaethau ac anafiadau ac wedi gorfodi dros dair miliwn o bobol o’i cartrefi.