Mae cerddorion Cymraeg “yn hapusach eu byd”, a does “dim owns o ddrwgdeimlad” rhyngddyn nhw a’r asiantaeth talu breindal, PRS, erbyn hyn, meddai llefarydd ar eu rhan.

Daw sylwadau Tomos Jones ar drothwy dathlu Dydd Miwsig Cymru ddydd Gwener (Chwefror 8), ac ar ôl cyfnod anhapus lle bu cerddorion a chyfansoddwyr yn streicio ac yn dal eu gwaith yn ôl rhag cael ei ddefnyddio ar y cyfryngau mewn anghydfod tros arian.

“Mae pethau’n iach iawn efo ni, a chytundebau efo’r BBC ac S4C yn iach,” meddai Tomos Jones wrth golwg360. “Ein blaenoriaeth ni rŵan ydi trio tyfu’n haelodaeth.

“Mae’n perthynas ni efo PRS yn iach, a does dim owns o ddrwgdeimlad rhyngon ni. Rydan ni’n teimlo’n rhan o’r sîn rŵan.”

Anghydfod

Wrth drafod y gwrthdaro a fu rhwng cerddorion a PRS yn y gorffennol, mae’n dweud bod hynny’n “hen newyddion bellach”.

Roedd y corff casglu breindal wedi gobeithio am gyfanswm o daliadau o £1.5m yn flynyddol gan y BBC, am chwarae cerddoriaeth Gymraeg ar Radio Cymru. Ond fe benderfynodd tribiwnlys y dylai’r BBC dalu £100,000 y flwyddyn am hawliau i ddarlledu cerddoriaeth aelodau Eos.

Cafodd cytundeb newydd ei lofnodi fis Ebrill y llynedd, sy’n sicrhau hawliau cerddorion a chyfansoddwyr am gyfnod o bum mlynedd.

Gwneud bywoliaeth

Mae’r cytundeb yn golygu bod holl wasanaethau darlledu’r BBC wedi’u trwyddedu, gan gynnwys gorsaf Radio Cymru 2 a gafodd ei sefydlu fis Ionawr y llynedd.

“Ond mae gwaith i’w wneud o hyd,” meddai Tomos Jones. “Rydan ni am drio cael bandiau ifanc i wybod mwy am y blaendaliadau sydd am ddod iddyn nhw.

“Be’ sy’n grêt ydi bo ni, efo’r cytundeb, wedi gosod cynsail efo’r BBC ac S4C. Rydan ni’n mynd o nerth i nerth yn yr ystyr yna.”

Y cam nesaf, meddai, yw cynllunio cronfa newydd i gerddorion a chyfansoddwyr. Fe fydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.