Michael Jackson
Doedd y doctor sy’n cael ei gyhuddo o ddynladdiad Michael Jackson ddim wedi dweud wrth barafeddygon am rai o’r cyffuriau yr oedd wedi eu rhoi i’r canwr.
Fe ddywedodd y parafeddyg cynta’ i gyrraedd ei fod wedi synhwyro ar unwaith nad oedd pethau’n iawn wrth i’r meddyg, Conrad Murray, esbonio beth oedd wedi digwydd.
Fe glywodd llys yn Los Angeles gan barafeddyg arall a oedd yn cadarnhau na ddywedodd y meddyg ddim am dawelyddion cry’ yr oedd wedi eu rhoi i’r canwr 50 oed.
Roedden nhw hefyd yn credu bod Michael Jackson wedi marw’n fuan iawn ar ôl iddyn nhw gyrraedd ei gartre’ ym mis Mehefin 2009.
Y cyhuddiad
Mae Dr Conrad Murray yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad anwirfoddol a honiad ei fod wedi rhoi dôs angheuol o gyffuriau i Jackson.
Mae’n mynnu mai’r canwr ei hun oedd wedi cymryd y feddyginiaeth pan oedd yntau allan o’r ystafell.