Andrew Tyrie (Willwal CCA 3.0)
Mae Ceidwadwr amlwg wedi beirniadu ei Lywodraeth ei hun am fethu â datblygu cynllun economaidd tymor hir.
Mae Michael Tyrie, Cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar y Trysorlys, yn dweud bod angen “cynllun credadwy” i hybu twf yn yr economi.
Mewn cyfweliad gyda phapur newydd y Times, roedd yn feirniadol o rai o brif syniadau’r Prif Weinidog David Cameron – y Gymdeithas Fawr, pwyslais lleol a’r strategaeth werdd – gan ddweud eu bod yn “amherthnasol” neu’n groes i’r angen.
Ar drothwy cynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion, roedd hefyd yn condemnio’r gwario ar yr ymgyrch filwrol yn Libya ac ar y penderfyniad i warchod gwario ar gymorth rhyngwladol.
Er ei fod yn cefnogi’r toriadau, fe fydd sylwladau AS mor amlwg yn sicr o fwydo beirniadaeth y Blaid Lafur sydd wedi bod yn galw ar y Llywodraeth am gynllun newydd ar gyfer twf a swyddi.