Michael O'Brien a'i lyfr (Llun cyhoeddusrwydd Y Lolfa)
Mae’r ymchwiliad i gwynion yn erbyn yr heddlu yn achos y siopwr Phillip Saunders yn parhau fwy na 24 o flynyddoedd ers ei lofruddiaeth.

Ddoe, fe gyhoeddodd yr heddlu na fydd achos yn cael ei ddwyn yn erbyn pump o bobol oedd yn cael eu hamau o ddweud celwydd ar lw a gwyrdroi cwrs cyfiawnder yn ystod yr ymchwiliad.

Roedd dyn a dynes 45 a 46 oed wedi cael eu harestio a thri arall wedi cael eu holi ynglŷn â honiadau o dyngu anudon a gwyrdroi cwrs cyfiawnder, ond fe benderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron nad oedd digon o dystiolaeth yn eu herbyn.

Heddiw, fe gadarnhaodd Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu bod yr ymchwiliad i ymddygiad plismyn yn mynd yn ei flaen.

Cwyn

Fe gafodd cwyn ei gwneud gan Michael O’Brien, un o’r tri dyn a gafodd eu carcharu ar gam am y drosedd a ddigwyddodd yn 1987.

Roedd ef, Darren Hall ac Ellis Sherwood wedi treulio 11 mlynedd yn y carchar cyn cael eu rhyddhau gan y Llys Apêl.

Fe fydd yr ymchwiliad i’r gwyn yn cael ei arwain gan uwch swyddog newydd ar ôl i’r ymchwilydd gwreiddiol ymddeol.

Fe fydd y Ditectif Uwcharolygydd Nicola Holland yn arwain tîm o swyddogion o Heddlu De Cymru.

Y cefndir

Roedd Phillip Saunders wedi cael ei lofruddio mewn ymosodiad ciaidd yn Nhreganna, Caerdydd, wrth gyrraedd adre’ o’i waith yn gwerthu papurau o giosg yng nghanol y ddinas.

Mae Michael O’Brien wedi cyhoeddi llyfr am yr achos – The Death of Justice, sy’n cael ei gyhoeddi gan Wasg y Lolfa.

Fe gafodd ef ac Ellis Sherwood iawndal sylweddol am eu cyfnod yn y carchar – fe benderfynodd y Llys Apêl nad oedd modd dibynnu ar  gyfaddefiad gan Darren Hall ac fe godwyd cwestiynau mawr am ymddygiad yr heddlu wrth gynnal cyfweliadau.