Heddlu Dyfed Powys
Mae plentyn yn ddifrifol wael mewn ysbyty ar ôl gwrthdrawiad gyda char.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion i’r digwyddiad yn Aberystwyth fore ddoe.

Fe gafodd y bachgen ei daro gan gar Volkswagen yn agos at groesfan ger meithrinfa Camau Bach ar Rodfa St Brieuc.

Fe gafodd ei gymryd ar unwaith i Ysbyty Bronglais yn y dref, gydag anafiadau difrifol.

Mae’r heddlu eisiau cael clywed gan unrhyw un a welodd y digwyddiad tuag 8.20 bore ddoe.

Y rhif cyswllt yw 101 neu’r Cwnstabl Westbury yn swyddfa heddlu’r dref.