Mae’r Unol Daleithiau yn bygwth tynnu allan o gytundeb arfau gyda Rwsia sydd wedi bod yn ei le ers y Rhyfel Oer.

Cafodd y cytundeb ei greu yn 1987 ac ers hynny mae blynyddoedd o anghydfod wedi bod ynghylch cydymffurfiaeth Rwsia a hi.

Mae’r cytundeb yn gwahardd taflegrau penodol sy’n teithio 310 a 3,100 milltir.

Nid yw Rwsia wedi torri’r cytundeb, madden nhw.

Er hynny mae ysgrifennydd y wladwriaeth i’r Unol Daleithiau, Mike Pompeo, yn dweud bydd Washington yn rhoi’r gorau i’r cytundeb ddydd Sadwrn (Chwefror 2) os na fydd Moscow yn cydymffurfio.

Mae’r Unol Daleithiau hefyd wedi lleisio pryder ynglŷn â Tsieina.