Mi fydd tros 100 o dafarndai a bwytai’r bragdy Brains yn chwarae miwsig iaith Gymraeg yn ystod Dydd Miwsig Cymru dydd Gwener nesaf (Chwefror 8).
Caneuon yr albwm amlgyfrannog AM18 – sy’n cynnwys rhai o ganeuon gorau 2018 ac yn cael ei chyhoeddi ar yr un diwrnod – fydd yn cael eu chwarae.
Felly bydd cyfle i glywed 18 o artistiaid Cymraeg gwahanol mewn lleoliadau annisgwyl.
Bydd caneuon Mellt, HMS Morris a Los Blancos ymysg y rhai i’w chwarae.
“Rydym wedi adeiladu perthynas positif iawn gyda Brains – maen nhw wedi ymrwymo i chwarae cerddoriaeth Gymraeg yno,” esboniodd Ffion Rees sy’n rhan o dîm Dydd Miwsig Cymru.
“Maen nhw eisiau eu henw ynghlwm â’r ymgyrch. Mi fyddan nhw wedi cael y playlist AM18 – a nhw fydd yn cael dewis pa rhai yn union fydd yn cael eu chwarae.”
Bydd un o gigs Dydd Miwsig Cymru yn y City Arms – un o dafarndai Brains ar Stryd Womanby yng Nghaerdydd.
Hefyd yn rhan o Ddydd Miwsig Cymru bydd gigs am ddim yn cael eu cynnal ledled Cymru gan gynnwys Caerdydd, Aberystwyth, Caernarfon, Caerfyrddin, Wrecsam, Bangor a Llanrwst.
Artistiaid a chaneuon AM18
Serol Serol – K’TA
Mellt – Rebel
Candelas – Gan Bo Fi’n Gallu
Pendevig – Lliw Gwyn
Accu – Am Ser
Los Blancos – Datgysylltu
Gwilym – Cwin
Iwan Huws – Pan fydda ni’n symud
Adwaith – Fel i Fod
Geraint Jarman – Addewidion
Alys Williams – Dim Ond
Rhys Gwynfor – Canolfan Arddio
Mr – Y Pwysau
HMS Morris – Corff
Pasta Hull – Jam Heb Siwgwr
Breichiau Hir – Portread O Ddyn Yn Bwyta Ei Hun
Alffa – Gwenwyn
Ani Glass – Peirianwaith Perffaith