Mae Senedd Ewrop wedi galw ar aelodau’r Undeb Ewropeaidd i gydnabod arweinydd yr wrthblaid yn Feneswela, Juan Guaido, yn Arlywydd dros dro.
Daw’r alwad wrth i’r Undeb barhau i bendroni ynghylch ei safbwynt ar yr argyfwng sy’n digwydd yn y wlad yn Ne America ar hyn o bryd, lle mae Nicolas Maduro yn dal i fod â rheolaeth dros y lluoedd arfog.
Y dilyn pleidlais ym Mrwsel, fe ddaeth Senedd Ewrop i’r penderfyniad o gefnogi Juan Guaido yn dilyn pleidlais o 439-104.
Roedd y cynnig gerbron yr aelodau hefyd yn cynnwys condemniad o’r trais yn Feneswela, a’r ffaith bod rhai newyddiadurwyr wedi cael eu harestio.
Mae disgwyl i weinidogion tramor yr Undeb Ewropeaidd drafod yr argyfwng yn ystod cyfarfod yn Bucharest ar ddydd Iau (Ionawr 31).