Mae’r Llys Apêl wedi gwrthdroi dedfryd dyn a gafodd ei garcharu yn yr 1970au am ladd merch ifanc o’r Fflint, a hynny ar ôl i brawf DNA ddod o hyd i’r llofrudd iawn.

Fe dreuliodd Noel Jones, 61, chwe blynedd yn y carchar allan o’r 12 mlynedd o ddedfryd a dderbyniodd yn 1976 am ddynladdiad Janet Commins, 15, o’r Fflint.

Ond flynyddoedd yn ddiweddarach ym mis Gorffennaf 2017, cafodd y cyn-filwr, Stephen Hough, ei ddedfrydu i 12 mlynedd o garchar yn Llys y Goron Yr Wyddgrug am dreisio a lladd y ferch.

Roedd ymchwilwyr wedi dod o hyd i’r llofrudd iawn ar ôl i DNA a oedd yn cyfateb i un Stephen Hough gael ei ganfod ar safle’r drosedd. Cafodd y cysylltiad ei wneud ar ôl iddo gael ei arestio yn 2016 ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol ar ferch ifanc.

Anghyfiawnder difrifol

Mewn gwrandawiad yn Llundain ddydd Iau (Ionawr 31), fe ddaeth tri barnwr i’r casgliad fod Noel Jones, 61, wedi dioddef “anghyfiawnder difrifol” a bod ei enw bellach wedi’i glirio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Fe ddiflannodd Janet Commins ar Ionawr 7 1976, a hynny tra oedd ar y ffordd yn ôl o ymweld â ffrindiau yn y ganolfan nofio leol.

Cafodd ei chorff ei ganfod bedwar diwrnod yn ddiweddarach tra oedd plant yn chware cuddio mewn coedlan ger Ysgol Gwynedd, Y Fflint.

Yn ystod achos llys Stephen Hough yn 2017, fe ddywedodd Noel Jones iddo wadu cyflawni’r drosedd ar y cychwyn, ond ei fod wedi cymryd y bai yn ddiweddarach oherwydd y pwysau arno.