Mae grŵp roc Yr Ods a’r nofelydd Llwyd Owen yn gweithio ar albwm a nofel ar y cyd, a fydd yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref.
Mae Griff Lynch yn esbonio mai ymateb yn gerddorol i stori Llwyd Owen y mae’r grŵp.
“Mae yna lot ohonon ni yn gweithio yn y byd ffilm a theledu,” meddai Griff Lynch, “felly mae stori ac ati yn rhywbeth sy’n ein gyrru ni yn fwy na jest creu sèt o ganeuon.”
Mae drafft o nofel Llwyd Owen eisoes yn nwylo gwasg Y Lolfa, ac mae’r grŵp wrthi’n ymateb yn gerddorol iddi.
Yn ôl Griff Lynch, mae Llwyd Owen wedi creu “rhyw fath o alternate universe” yn y nofel – “y byd rydan ni’n ei adnabod rŵan, ond efo twist Llwyd Owen ffiaidd iddo fo.”
Mae modd darllen y stori lawn yng nghylchgrawn Golwg sydd yn y siopau heddiw (dydd Iau, Ionawr 31).