Fe fydd modd gweld rhai o ddarluniau Leonardo da Vinci yng Nghaerdydd yn ystod y misoedd nesaf, a hynny yn y flwyddyn sy’n dynodi 500 mlynedd ers marwolaeth yr artist o’r Eidal.

Bydd arddangosfa Leonardo da Vinci: Dyn y Darluniau yn cael ei chynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng Chwefror 1 a Mai 6, gyda’r deuddeg darlun o eiddo’r artist yn dod o’r Casgliad Brenhinol.

Nod yr arddangosfa yw cyfleu amrediad diddordebau Leonardo da Vinci, gan gynnwys paentio, cerflunio, pensaernïaeth, cerddoriaeth a pheirianneg i enwi ond rhai.

Mae’r dwsin o ddarluniau hefyd yn cynnwys enghreifftiau o’r holl ddeunyddiau darlunio a gafod ei ddefnyddio gan yr artist – ysgrifbin ac inc, sialc coch a du, dyfrlliw a phwyntil.

Bydd arddangosfeydd tebyg yn cael eu cynnal ledled gwledydd Prydain dros y flwyddyn sydd i ddod.