Trip ysgol i wersyll difa Auschwitz yng Ngwlad Pwyl oedd y prif ysgogiad i awdur o Fôn sgrifennu ei nofel gyntaf.
Mae Eira Llwyd gan Gareth Evans-Jones yn olrhain hanes tri Iddew a gafodd eu herlid a’u carcharu yn ystod yr Holocost.
Cafodd y “nofel fer” ei chyhoeddi ar ddiwedd 2018, ond yn ôl yr awdur ei hun, sy’n ddarlithydd yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor, bu’n ffrwyth blynyddoedd o ymchwilio, myfyrio a sgrifennu.
“Pan oeddwn i’n Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch ac yn gwneud Lefel A mewn Addysg Grefyddol, roedd yna uned yn y cwrs lle roeddan ni’n astudio ymatebion diwinyddol i’r Holocost,” meddai wrth golwg360.
“Fel rhan o hynny wedyn, fe aethom ni ar daith i Wlad Pwyl yn 2009 i ymweld ag Auschwitz-Birkenau.
“Roedd yn brofiad bythgofiadwy, a does gen i ddim disgrifiad sy’n medru cyfleu’r profiad. Roedd y profiad yna o fod yn y lle eiconig am y rhesymau anghywir wedi cael effaith ddofn arna i.”
“Sgrifennu’n her ar brydiau”
Er nad oes llawer o ddeunydd wedi cael ei sgrifennu am yr Holocost yn Gymraeg, dywed Gareth Evans-Jones fod gweithiau awduron fel Sonia Edwards, Aled Jones Williams ac Annes Glyn wedi dylanwadu ar “arddull gryno” ei nofel.
Roedd angen arddull o’r fath, meddai, oherwydd dwyster y pwnc yr oedd yn ei drafod, ac mae’n ychwanegu bod gweithiau’r ddau awdur Iddewig, Elie Wiesel a Primo Levi, wedi bod o gymorth iddo wrth ddod i ddeall safbwyntiau dioddefwyr yr Holocost ei hun.
“Mae rhywun wedi gofyn os ydw i wedi mynd yn fwriadol ar ôl arddull bytiog a chryno,” meddai wedyn. “Wnes i ddim mo hynny’n fwriadol, ond dyna’r ffordd yr oeddwn i’n medru ei drafod o… oherwydd ei fod yn bwnc mor amrwd.”