Mae garddwr o Ganada wedi pledio’n euog i ladd wyth dyn a oedd yn gysylltiedig â’r gymuned hoyw yn Toronto.
Dywedodd Bruce McArthur nad oedd neb wedi’i orfodi i wneud penderfyniad ynglŷn â’r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Daeth yr awdurdodau o hyd i olion saith o ddynion wedi’u cuddio ar eiddo yr oedd y gŵr 67 oed yn gweithio arno.
Cafodd olion yr wythfed dyn eu canfod mewn cwm cul gerllaw’r un eiddo yng nghanol Toronto.
Roedd yr awdurdodau wedi bod yn ymchwilio i gyfres o ddiflaniadau yn y gymuned hoyw yn ninas fwyaf Canada pan gafodd Bruce McArthur ei arestio.