Cafodd aelod o staff archfarchnad ym mhentref Cyffordd Llandudno ei ddal ‘gerfydd ei wddw’ gan leidr yn ystod ymgais i ddwyn.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, fe ddigwyddodd yn siop Iceland am 5.40yh nos Sadwrn (Ionawr 26) pan wnaeth dyn fygwth ariannwr wrth iddo agor y til.

Ni chafodd neb ei anafu ac ni lwyddwyd i ddwyn arian.

Mae’r troseddwyr bellach wedi’u harestio, meddai’r heddlu, ac maen nhw wedi’u cyhuddo o ymgeisio lladrata.