Mae gwefan Facebook wedi ffurfio bwrdd annibynnol a fydd yn ystyried pa gynnwys sy’n aros, a pha gynnwys sy’n diflannu, oddi ar y platfform.
Yn ôl y cwmni, mae angen rhoi tegwch a thryloywder i’r ddau biliwn o’u defnyddwyr – ac er mwyn sicrhau hynny, ni ddylai’r cwmni allu ffafrio rhai mathau o gynnwys dros eraill.
Mae’r wefan wedi cael ei feirniadu dro ar ôl tro am sut mae’n delio gyda chynnwys y platfform, a’r diffyg tryloywder yn ei benderfyniadau.
Yn ôl y cynllun drafft, byddai’r bwrdd yn delio gydag apeliadau ar Facebook, ynghyd ag achosion maen nhw yn eu cynnig gan eu bod yn “enwedig yn anodd ei datrys.”
Maen nhw’n cynnig creu corf o 40 o “arbenigwyr byd-eang” – gyda’r penderfyniadau a’r prosesau ar gael yn gyhoeddus.