Mae trowynt pwerus yn nwyrain Havana wedi lladd tri pherson ac anafu 174 o bobol eraill, yn ôl Arlywydd Ciwba.

Fe gafodd prifddinas y wlad ei tharo’n wael dros nos gan wyntoedd cryfion a glaw trwm, a bu rhannau o’r ddinas heb drydan am gyfnod hefyd.

Mae lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos ceir wedi’u malurio gan lampau stryd sydd wedi syrthio, a rhai eraill wedyn o dan ddŵr.

Mae hyd yn oed Arlywydd Miguel Diaz-Canel wedi cyhoeddi llun o’i hun yn sefyll o flaen car  a gafodd ei wyrdroi o ganlyniad i’r storm.

Mae un orsaf radio yn y wlad yn adrodd bod ardaloedd Regla a 10 de Octubre, ynghyd â thref San Muguel de Padron, wedi’u heffeithio gan y trowynt.