Mae byddin Venezuela wedi cael ei rhoi ynghanol y gwrthdaro yn y wlad dros bwy sy’n ennill grym.
Ar un ochr mae cefnogwyr arweinydd yr wrthblaid, Juan Guaido, yn ceisio perswadio’r fyddin i ddisodli’r arlywydd Nicolas Maduro gyda phamffledi yn esbonio y byddai cyfraith newydd yn eu hamddiffyn petae nhw’n helpu i wneud hynny.
Ar yr ochr arall, mae Nicolas Maduro yn eu cyhuddo o gyd-gynllwynio i gipio pŵer gyda’r Unol Daleithiau “imperialaidd” gan alw ar y fyddin i “amddiffyn ein mamwlad, o dan unrhyw amod.”
Mae hyn wedi rhoi’r fyddin yng nghanol y ddadl fyd-eang dros bwy sydd â hawl i ddod i rym yn y wlad yn Ne America.
Mae’r ffraeo eisoes wedi gadael 24 yn farw wrth i filoedd orymdeithio ar y strydoedd yn galw ar Nicolas Maduro i gamu lawr.
Yn ôl y gwrthwynebydd Juan Guaido, bydd dau brotest fawr arall yn ystod yr wythnos hon.
Cefndir
Fe ddechreuodd y gwrthdaro ar ol i Juan Guaido, 35, arweinydd yr wrthblaid, ddatgan o flaen miloedd o gefnogwyr ei fod wedi cymryd pwerau arlywyddol dros dro.
Rhoddodd addewid ei fod yn mynd i gynnal etholiadau a rhoi diwedd ar unbeniaeth Nicolas Maduro.
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi cydnabod mai Juan Guaido yw arweinydd newydd cyfreithlon Venezuela.
Mae Rwsia a Tsieina yn cefnogi Nicolas Maduro ond mae Ffrainc, Prydain, Sbaen a’r Almaen yn dweud y byddan nhw yn cydnabod Juan Guaido fel arlywydd oni bai bod Venezuela yn galw am etholiad arlywyddol newydd o fewn wyth diwrnod.