Mae darn o waith celf a gafodd ei greu gan Banksy i dalu teyrnged i ddioddefwyr ymosodiad brawychol ar ganolfan y Bataclan yn Paris wedi cael ei ddwyn.

Roedd y paentiaid ar ddrws yn y ganolfan i gofio am y 90 o bobol a gollodd eu bywydau yn y gyflafan yn 2015 – un o nifer o ddigwyddiadau mewn cyfnod byr o amser ym mhrifddinas Ffrainc.

Cafodd y gwaith ei bostio ar dudalen Instagram yr arlunydd dirgel fis Mehefin y llynedd.

Gwaith celf Port Talbot

Dyma’r ail waith i Banksy ddwyn y penawdau’n ddiweddar, yn dilyn helynt y gwaith celf a ymddangosodd ar garej yn nhref Port Talbot.

Ddechrau’r mis, cafodd y gwaith ei werthu gan Ian Lewis o’r dref am “swm chwe ffigwr”, ac mae’r prynwr John Brandler o Essex wedi cytuno i gadw’r gwaith celf yn y dref am o leiaf ddwy flynedd.

Mae’n dangos plentyn yn chwarae yn yr eira islaw lludw a mwg yng nghysgod y gweithfeydd dur gerllaw.

Dyma’r tro cyntaf i un o weithiau celf Banksy ymddangos yng Nghymru.