Mae dyfarnwr pêl-droed rhyngwladol o Niger wedi derbyn gwaharddiad oes am dderbyn llwgrwobrwyon.

Mae’r corff pêl-droed Fifa wedi cael Ibrahim Chaibou yn euog o dderbyn y taliadau, ac wedi rhoi dirwy o £154,000 iddo.

Roedd y gŵr wedi dylanwadu ar ganlyniadau gemau cyfeillgar rhyngwladol yn 2010 a 2011. Fel arfer byddai’n derbyn goliau dadleuol er mwyn ffafrio tîm penodol.

Mae’n dra thebygol ei fod wedi amharu ar gemau sawl gwlad gan gynnwys Guatemala, Bahrain, De Affrica, Nigeria a’r Ariannin.