Mae ymchwilwyr am ystyried os oedd gan beilot yr awyren a ddiflannodd gyda’r pêl-droediwr, Emiliano Sala, drwydded gywir.
Fe gyhoeddodd yr awdurdodau ddoe y byddan nhw’n rhoi’r gorau i’w hymdrechion i chwilio am yr awyren Piper PA-46, a oedd yn cario ymosodwr newydd yr Adar Gleision a’i beilot, Dave Ibbotson.
Daw hyn er gwaethaf apel gan chwaer Emiliano Sala, Romina, ar dimau achub i barhau â’r chwilio, gan fod ganddi obaith bod y ddau’n dal yn fyw.
Ers i’r awyren fechan ddiflannu nos Lun (Ionawr 21), a hynny wrth deithio o Nantes yn Llydaw i Gaerdydd, mae ymchwiliad i’r digwyddiad bellach wedi cychwyn.
Yn ogystal ag ymchwilio agweddau technegol eraill o’r daith, mae ymchwilwyr hefyd am ystyried trwydded y peilot.
Yn ôl y Weinyddiaeth Hedfan Ffederal yn yr Unol Daleithiau, roedd David Ibbotson, 59, o Swydd Lincoln, yn dal trwydded breifat ar gyfer peilotiaid, ac wedi pasio archwiliad meddygol ym mis Tachwedd.
Roedd yr awyren hefyd wedi’i chofrestru yn yr Unol Daleithiau, yn ôl tystiolaeth gan yr Awdurdod Hedfan Sifil wedyn.
Yn ôl cyfraith y wlad honno, does dim hawl gan beilotiaid preifat i wneud elw wrth gludo teithwyr.
Fe adawodd Emiliano Sala a David Ibbotson Faes Awyr Nantes am 7.15yh nos Lun, ond ar ôl gofyn am ganiatâd i hedfan yn is yn ystod y daith, fe gollodd yr awyren gysylltiad gyda swyddogion rheoli traffig awyr Jersey.