Mae prif weinidog Groeg, Alexis Tsipras, wedi trechu pleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn, wedi i’r glymblaid sydd wedi bod yn rhedeg y wlad ddymchwel.
Fe lwyddodd i sicrhau’r isafswm o 151 pleidlais sydd ei hangen i oroesi’r her i’w arweinyddiaeth yn siambr 300 sedd ei wlad.
Mae ei dymor presennol yn dod i ben ym mis Hydref.
Roedd gweinidog amddiffyn yn llywodraeth Alexis Tsipras wedi ymddiswyddo dros y Sul, oherwydd cytundeb sydd ar y bwrdd ynglyn â newid enw’r wlad drws nesa’, Macedonia.
Mae’r fargen yn galw ar i’r wlad newydd gael ei hailenwi yn Ogledd Macedonia, yn gyfnewid am i Groeg roi’r gorau i rwystro ei bwriad i geisio am aelodaeth o NATO.