Mae disgwyl cyhoeddiad o Japan heddiw (dydd Iau, Ionawr 17) ar ddyfodol prosiect atomfa niwclear Wylfa Newydd yn Ynys Môn.
Mae cyfryngau Japan wedi bod yn adrodd ers amser mai bwriad cwmni Hitachi yw gohirio adeiladu’r atomfa niwclear newydd gwerth £20bn.
Yn ôl Cyngor Ynys Môn, byddai gohirio’r prosiect yn ergyd enfawr i economi gogledd Cymru gyfan.
Roedd disgwyl i tua 9,000 o weithwyr fod yn gweithio ar adeiladau’r ddau adweithydd niwclear, a’r gobaith fyddai eu cael yn weithredol erbyn canol y 2020au. Mae Hitachi eisoes wedi gwario £2bn ar y prosiect a allai greu cannoedd o swyddi parhaol, yn ogystal â miloedd o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu.
Prosiect yn y fantol?
Yn 2012, fe gyhoeddodd Hitachi y byddai’n cymryd rheolaeth o’r cynllun. Y bwriad oedd cynhyrchu trydan ar gyfer Ynys Môn a’r Grid yn ehangach, a bod yn weithredol am 60 o flynyddoedd.
Cyfrifoldeb Horizon, sy’n un o is-gwmnïau Hitachi, oedd adeiladu’r orsaf newydd.
Mae mwy a mwy o sôn am ohirio wedi bod dros yr wythnosau diwethaf, a hynny oherwydd cynnydd posib mewn costau adeiladu.