Mae Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yn cyhoeddi ymgynghoriad heddiw ar gynllun i fynd i’r afael â gordewdra, “yr her fwyaf i Gymru o ran iechyd y cyhoedd”.
Mae’r ddogfen Pwysau Iach: Cymru Iach yn nodi’r camau y bydd y llywodraeth yn eu cymryd er mwyn helpu pobol Cymru i osgoi bod yn or-dew.
Mae gwledydd Prydain ymhlith y gwaethaf ar gyfer lefelau gordewdra yng ngorllewin Cymru.
Yng Nghymru, mae 27% o blant pedair neu bump oed a 60% o oedolion dros eu pwysau, sy’n gallu arwain at glefyd y galon, clefyd siwgr math 2 a chanser.
Gall gael effaith hefyd ar iechyd meddwl.
Camau posib
Mae’r camau gweithredu posib sy’n cael eu hawgrymu yn y ddogfen ymgynghori’n rhoi pwyslais cryf ar atal gordewdra ar sail ymchwil a thystiolaeth rhyngwladol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gynnal pwysau iach.
Mae pedair prif thema yn y ddogfen ymgynghori, sef arweinyddiaeth a galluogi newid, amgylchedd iach, lleoliadau iach a phobol iach.
Gormod o bobol dros eu pwysau
“Mae gormod o bobol yng Nghymru dros eu pwysau neu’n or-dew,” meddai Vaughan Gething.
“Mae’r nifer uchel o blant pedair i bump oed sydd dros eu pwysau yn destun pryder cenedlaethol.
“Nid yw’r llywodraeth hon yn barod i adael i ddeiet gwael neu ddiffyg ymarfer corff fod yn nodweddion amlwg ym mywydau ein plant a’n pobol ifanc.
“Rydym yn gwybod y byddai llawer ohonom yn hoffi bwyta’n iachach neu wneud mwy o ymarfer corff. Ond mae cynnwys hyn yn ein bywydau prysur yn gallu ymddangos yn ormod o her.
“Os na lwyddir i wneud hyn, mae gallu’r Gwasanaeth Iechyd i fod yn gynaliadwy yn y tymor hir yn y fantol.
“Allwn ni ddim osgoi’r broblem – dyma her fwyaf ein cenhedlaeth.”