Mae Maer dinas Gdansk yng Ngwlad Pwyl wedi marw (Ionawr 14) ar ôl cael ei drywanu.

Fe ymosododd cyn-garcharor ar Pawel Adamowicz, 53, ar lwyfan mewn digwyddiad i ddathlu elusen ddoe (Ionawr 13). Bu farw ar ôl cael anafiadau i’w galon a’i stumog.

Mae erlynwyr yn dweud y bydd y dyn sy’n cael ei amau o’r llofruddiaeth, hefyd yn destun archwiliad seiciatrig.

Roedd y dyn wedi dweud ei fod yn dial yn erbyn plaid wleidyddol, Civic Platform, yr oedd Pawel Adamowicz yn aelod ohoni am rai blynyddoedd.

Roedd wedi bod yn faer ers mwy na 20 mlynedd.