Mae arlywydd Iran wedi cyhoeddi bod ei wlad yn bwriadu anfon dwy loeren i’r gofod gan ddefnyddio technoleg sydd wedi cael ei datblygu ganddyn nhw.
Yn ôl Hassan Rouhani, mae disgwyl lansiad “yn fuan, yn ystod yr wythnosau nesaf”.
Mae’r wlad wedi anfon sawl lloeren i’r gofod yn y gorffennol, ac yn 2013 fe lwyddon nhw i anfon mwcni mewn roced.
Mae’r Unol Daleithiau a’i chynghreiriaid yn pryderu am gynlluniau Iran i anfon lloerenni i’r gofod gan y gallan nhw ddefnyddio’r un dechnoleg i ddatblygu taflegrynnau.
Maen nhw’n cyhuddo’r wlad o fynd yn groes i benderfyniad gan y Cenhedloedd Unedig sy’n galw arnyn nhw i beidio ag ymwneud â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thaflegrynnau a all darparu arfau niwclear.
Ond mae Iran yn mynnu nad yw ei chynllun lloerenni yn mynd yn groes i unrhyw benderfyniad.