Mae llywodraeth Gwatemala wedi gwahardd un o gyrff y Cenhedloedd Unedig sy’n ymchwilio i honiadau o dwyll yn erbyn arlywydd y wlad.

Roedd y comisiwn yn ymchwilio i honiadau yn erbyn yr arlywydd, Jimmy Morales, ei deulu a rhai o uwch-swyddogion y llywodraeth.

Gan gyhuddo’r comisiwn o fynd yn groes i sofraniaeth Guatemala, fe gyhoeddodd gweinidog tramor y wlad, Sandra Jovel, y gwaharddiad yn dilyn cyfarfod gydag Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Antonio Guterres.

Awr yn ddiweddarach, fe gynhaliodd yr Arlywydd ei hun gynhadledd i’r wasg yn cyhuddo’r Cenhedloedd Unedig ac Antonio Guterres o anwybyddu’r achosion o gam-drin dynol a gafodd eu cynnal gan y comisiwn dros gyfnod o flynyddoedd.

Yn ystod yr 11 mlynedd mae’r comisiwn wedi bod yn gweithredu yn Guatemala, mae CICIG wedi bod yn dilyn achosion o dwyll sydd wedi gweld mwy na 600 o bobol, sy’n cynnwys gwleidyddion, biwrocratiaid a phobol busnes, yn cael eu dedfrydu.

Dydy Jimmy Morales ddim wedi cuddio ei atgasedd tuag at y comisiwn, a oedd tan nawr yn ymchwilio ei fab a’i frawd, yn ogystal â’r honiad bod yr Arlywydd ei hun wedi torri rhai rheolau etholiadol.