Mae arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong-un, wedi cyrraedd Beijing er mwyn cynnal trafodaethau.

Mae lle i gredu bod yr ymweliad pedwar diwrnod yn ymgais i gydgysylltu â Tsieina ar drothwy cynhadledd yn ddiweddarach yn y flwyddyn pan fydd Kim Jong-un yn cyfarfod ag Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, am yr eildro.

Mae lle i gredu bod swyddogion o’r Unol Daleithiau a Gogledd Corea wedi cyfarfod yn Vietnam yn ddiweddar er mwyn trafod lleoliad yr ail gynhadledd.

Yn ôl y cyfryngau yng Ngogledd Corea, fe gafodd Kim Jong-un ei wahodd i ymweld â Tsieina gan Arlywydd y wlad, Xi Jinping.

Dyma’r trydydd tro i’r arweinydd Coreaidd ymweld â Tsieina.