Mae brenin Malaysia wedi gadael yr orsedd – y tro cyntaf i hynny ddigwydd yn hanes y wlad.
Dydy Sultan Muhammad V ddim wedi cynnig rheswm am ei ymadawiad ar ôl dwy flynedd yn unig.
Dywed y palas brenhinol ei fod e wedi gadael ar unwaith, ac yntau’n un o’r brenhinoedd ieuengaf yn hanes y wlad yn 49 oed.
Mae’n briod â model o Rwsia ers mis Tachwedd.
Mae Malaysia yn wlad annibynnol ers 1957, pan wnaeth dorri’n rhydd o reolaeth Prydain.
Mae naw o arweinwyr y wlad yn cymryd troeon i fod yn frenin, a hynny am uchafswm o bum mlynedd yr un.