Mae senedd Israel wedi pleidleisio o blaid dileu’r llywodrarth bresennok a chynnal etholiad arall ar Ebrill 9.

Mater ffurfiol yn unig oedd hi, ac fe bleidleisiodd y Knesset yn hwyr ddydd Mercher (Rhagfyr 26) o blaid dileu’r llywodraeth o 102-2 o fôts.

Yn gynharach yr wythnos ho , fe gyhoeddodd y prif weinidog Benjamin Netanyahu y byddai’n chwalu’r glymblaid ac arwain y genedl i etholiad newydd rhyw chwe mis ynghynt na’r disgwyl.

Mae ymgyrch dri mis newydd ddechrau cyn yr etholiad ym mis Ebrill.

Mae polau piniwn yn awgrymu y bydd plaid genedlaetholgar Benjamin Netanyahu, Likud, yn ennill yn rhwydd.