Mae cyfanswm o 19 o bobol wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth dwy ymwelydd o Sgandinafia ym Mynyddoedd yr Atlas yn Morocco.

Mae deg o bobol newydd bellach yn y ddalfa wedi’u hamau o fod â chysylltiad â lladdwyr honedig Louisa Vesterager, 24, o Debmarc; a Maren Ueland, 28, o Norwy.

De ddaethpwyd i hyd i gyrff y ddwy yr wythnos ddiwethaf, yn y babell yr oedden nhw wedi bod yn gwersylla ynddi mewn ardal anghysbell yn y mynyddoedd.

Y gred ydi eu bod wedi cael eu lladd gan ddynion sydd â chysylltiadau â’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).