Mae tri astronôt wedi dychwelyd i’r Ddaear ar ôl treulio mwy na chwe mis ar yr Orsaf Gofod Rhyngwladol.
Fe laniodd Serena Aunon-Chancellor o NASA; yr Almaenwr Alexander Gerst; a Sergey Prokopyev o Rwsia yng nghapsiwl Soyuz Rwsia yn Khazakstan – tua 87 milltir i’r de o ddinas Dzhezkazgan.
Fe lanion nhw funud ynghynt na’r disgwyl, am 11.02yb amser lleol ac mae’r criw yn ymddangos yn iach ar ôl treulio 197 diwrnod yn y gofod.
Hwn oedd taith ofod gyntaf Serena Aunon-Chancellor a Sergey Prokopyev, tra’r oedd Alexander Gerst ar ei ail daith.