Mae gwasanaeth coffa wedi’i gynnal yn dilyn yr ymosodiad brawychol ar ddinas Strasbourg ddydd Mawrth (Rhagfyr 11).
Cafodd pedwar o bobol eu saethu’n farw, a chafodd dwsin o bobol eu hanafu ger marchnad Nadolig y ddinas.
Roedd mwy na 1,000 o bobol yn Sgwâr Kleber ar gyfer y gwasanaeth, a ddaeth i ben gyda chymeradwyaeth a chyd-ganu’r anthem genedlaethol.
Mae Roland Ries, Maer Strasbourg, wedi talu teyrnged i drigolion y ddinas.
Cherif Chekatt
Yn dilyn yr ymosodiad, fe fu’r heddlu’n chwilio am Cherif Chekatt, y dyn 29 oedd wedi’i amau o fod yn gyfrifol am yr ymosodiad.
Cafodd ei saethu’n farw pan ddaeth yr heddlu o hyd iddo.
Mae ymchwiliad ar y gweill, wrth i ddau o bobol gael eu rhyddhau o’r ddalfa heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 16).
O blith y saith o bobol sydd wedi’u harestio yn dilyn y digwyddiad, dim ond un sydd yn y ddalfa o hyd. Roedd rhieni a dau o frodyr Cherif Chekatt yn y ddalfa wedi’r ymosodiad.