Mae’r gwasanaethau brys yn ymateb i wrthdrawiad difrifol yn ardal Dolgellau.

Yn ôl Heddlu’r Gogledd, fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger gwesty’r Cross Foxes.

Ac mae’r gwasanaeth tân yn dweud eu bod nhw yno’n cynorthwyo’r heddlu, bod y ffordd ynghau am y tro ac y dylai gyrwyr osgoi’r ardal.