Mae llosgfynydd Soputan ar ynys Sulawesi yn Indonesia wedi ffrwydro ddwywaith.
Mae rhybudd i bobol leol gadw draw o’r ardal wrth i lafa lifo i lawr.
Mae’r ardal yn destun yr ail rybudd diogelwch mwyaf difrifol.
Mae Soputan yn 1,784 metr, ac mae’n un o 120 o losgfynyddoedd byw y wlad.