Mae dau o Iddewon wedi’u lladd, a dau arall wedi’u hanafu’n ddifrifol, wedi ymosodiad arfog ger un o setliadau’r Lan Orllewinol.

Mae’r marwolaethau yn rhan o wythnos dreisgar iawn a ddechreuodd gydag achos o saethu ddydd Sul diwethaf (Rhagfyr 9), pan gafodd babi a anwyd yn gynnar ei ladd.

Mae gwasanaeth achub o ochr Israel yn dwed i barafeddygon gyrraedd gorsaf fysiau heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 13) lle’r oedd pedwar o bobol ifanc wedi’u saethu. Y gred ydi fod y saethu wedi digwydd rhyw ddeng munud o daith o safle ymosodiad dydd Sul.

Mae cyfryngau Israel yn adrodd fod y bwledi wedi’u tanio allan o gar a oedd yn gyrru heibio i’r cartrefi Iddewig ar y Lan Orllewinol.