Mae heddlu’n chwilio am ddyn arfog a saethodd dri o bobol yn farw ger marchnad Nadolig yn Strasbourg neithiwr (nos Fawrth, Rhagfyr 11).

Cafodd 11 o bobol eu hanafu, ac mae pump ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.

Mae lle i gredu bod yr awdurdodau’n adnabod y dyn 29 oed, sy’n cael ei alw’n ‘Cherif C’ ar hyn o bryd, a bod 350 o swyddogion yn chwilio amdano ar ôl iddo lwyddo i ffoi mewn tacsi ar ôl cael ei saethu yn dilyn y digwyddiad ger eglwys gadeiriol y ddinas.

Yn ôl adroddiadau, mae wedi treulio cyfnodau yn y carchar yn Ffrainc a’r Almaen, ac roedd yr heddlu’n chwilio amdano mewn perthynas ag achos o ladrata.

Dydy Swyddfa Dramor San Steffan ddim wedi cael gwybod eto a gafodd unrhyw un o wledydd Prydain ei anafu yn y digwyddiad.

Roedd rhybudd i drigolion y ddinas aros yn eu cartrefi yn dilyn y digwyddiad, ac fe gafodd Senedd Ewrop ei chau am gyfnod.

Bydd marchnad y ddinas ynghau heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 12), a llyfr teyrngedau’n cael ei agor yn neuadd y dref.

Yn dilyn y digwyddiad, fe wnaeth Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron droi at Twitter i ddweud bod “y genedl gyfan” yn cefnogi trigolion Strasbourg, y dioddefwyr a’u teuluoedd.

Ymosodiadau blaenorol

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ymosodiadau brawychol yn Ffrainc dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn 2015, cafodd 130 o bobol eu saethu’n farw a channoedd o bobol eu hanafu yn Paris.

Y flwyddyn ganlynol, cafodd tryc ei yrru i mewn i dorf yn Nice ar Ddiwrnod Bastille, gan ladd 86 o bobol ac anafu cannoedd yn rhagor.