Mae Eglwys y Geni yn ninas Bethlehem wedi cael ei hadnewyddu, a’r bwriad ydi denu mwy o Gristnogion i ymweld â’r lle.
Mae’r colofnau a’r patrymau mosaic wedi cael eu hadnewyddu am y tro cyntaf mewn 600 mlynedd, gyda’r nod o ddenu twristiaid i’w gweld a’u gwerthfawrogi.
Dyma’r man, medden nhw, lle ganwyd Iesu Grist. Ond a’r lle bellach yn rhan o’r Lan Orllewinol ac Israel yn prysur feddiannu’r lle, mae Cristnogion wedi bod yn gadael yr ardal oherwydd tlodi a diffyg swyddi.
Fe ddechreuodd y gwaith adnewyddu yn 2013, flwyddyn wedi i UNESCO ddatgan fod yr eglwys yn Safle Treftadaeth y Byd.