Mae lluoedd arfog yr Unol Daleithiau wedi cadarnhau fod pum milwr, a fu ar goll, wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng dwy ger Japan yr wythnos ddiwethaf.
Roedd y pum milwr ar fwrdd awyren KC-130 a oedd yn cael ei hail-lenwi â thanwydd, cyn iddi daro i mewn i Hornet F/A-18 ddydd Iau (Rhagfyr 6).
Fe ddaethpwyd o hyd i ddau aelod o’r criw ar ôl y ddamwain, ond bu farw un ohonyn nhw’n ddiweddarach.
Roedd y criw o filwyr yn gweithio yng ngorsaf awyr Iwakuni ger Hiroshima.