Mae dwsinau o bobl wedi cael eu harestio mewn gwrthdrawiadau rhwng protestwyr a’r heddlu yn Paris.
Dyma’r trydydd penwythnos yn olynol o helyntion gan brotestwyr sy’n gwrthwynebu codiadau treth yn Ffrainc.
Mae rhai protestwyr wedi bod yn cynnau tanau yng nghanol y stryd ger yr Arc de Triomphe, ac eraill wedi bod yn taflu cerrig at yr heddlu.
Dywed yr heddlu fod o leiaf 81 o’r protestwyr wedi cael eu harestio.
Ers i’r protestiadau gychwyn bythefnos yn ôl mae dau o bobl wedi cael eu lladd a channoedd wedi eu hanafu.
Cynnydd mewn treth ar danwydd a wnaeth ysgogi’r protestiadau yn y lle cyntaf. Bellach, fodd bynnag, mae’r protestwyr yn mynegi dicter hefyd at gostau byw uchel yn y wlad ac arweinyddiaeth yr arlywydd Emmanuel Macron.