Mae prif weinidog Japan wedi apelio ar Theresa May i rwystro Brexit di-gytundeb.

Fe wnaeth Shinzo Abe ei apêl wrth i’r ddau gyfarfod yn uwch-gynhadledd y G20 yn yr Ariannin, ac mae’n dilyn rhybuddion gan gwmnïau o Japan fel Honda a Nissan o effaith sefyllfa o’r fath. Mae’r cwmnïau’n rhybuddio y byddai unrhyw dariffau ychwanegol neu oedi wrth dderbyn nwyddau o Ewrop beryglu dyfodol eu gweithgaredd ym Mhrydain.

“Hoffwn dalu teyrnged i’ch arweinyddiaeth wrth wireddu’r Cytundeb Gadael a chytundeb yr Undeb Ewropeaidd ar y Datganiad Gwleidyddol,” meddai Shinzo Abe wrthi.

“Hoffwn hefyd ofyn unwaith eto am eich cefnogaeth i osgoi diffyg cytundeb yn ogystal, er mwyn sicrhau trylowyder a sefydlogrwydd cyfreithiol yn y broses Brexit.”

Yn eu trafodaethau, fe wnaeth y ddau arweinydd ymrwymo i sefydlu partneriaeth economaidd newydd a fydd yn seiliedig ar y cytundeb masnach rydd mae Japan eisoes wedi’i daro gyda’r Undeb Ewropeaidd.