Mae un o gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd a gafodd ei anafu’n ddifrifol mewn lladrad treisgar yn ei gartref yn Llundain wedi marw.

Roedd Peter Gouldstone yn 98 oed ac yn yr ysbyty ers iddo ddioddef gwaedlif i’r ymennydd ac amryfal gleisiadau i’w gorff yn yr ymosodiad ar 6 Tachwedd.

Does neb wedi cael eu harestio hyd yma, ond dywed Scotland Yard fod eu hymchwiliadau’n parhau.

Meddai’r Ditectif Arolygydd Paul Ridley:

“Mae’r newyddion am farwolaeth Peter yn sioc ac yn dristwch inni i gyd. Dyma’r newyddion gwaethaf i’w deulu ac i bawb a oedd yn gofalu amdano ac yn ei adnabod.

“Dw i’n pwyso’n daer ar unrhyw un sydd â gwybodaeth, waeth pa mor fach, i gysylltu â’r heddlu’n ddi-oed.”