Mae dau ddaeargryn o fewn pum munud i’w gilydd, y naill yn mesur 7.0 a’r llall 5.8, wedi ysgwyd adeiladau a difrodi ffyrdd yn Alaska.

Fe ddigwyddodd y cyntaf tua saith milltir i’r gogledd o Anchorage, dinas fwyaf y dalaith gyda phoblogaeth o 300,000. Mae lluniau o’r digwyddiad yn dangos pobl yn ffoi o’u hadeiladau neu’n cysgodi o dan ddesgiau.

Cafodd rhan fawr o bont gerllaw maes awyr Anchorage ei dymchwel, ac fe wnaeth toriadau trydan darfu ar oleuadau traffig gan greu tagfeydd ac anhrefn yn y ddinas.

Wrth i bobl ddychwelyd i’w gwaith ar ôl y daeargryn cyntaf, fe ddigwyddodd un arall o fewn pum munud.

Nid oes unrhyw adroddiadau o farwolaethau nac o anafiadau difrifol.

Am gyfnod byr, cafodd trigolion tref arfordirol Kodiak eu rhybuddio i ffoi i dir uwch oherwydd ofnau am tsunami, ond cafodd y rhybudd ei ddiddymu’n fuan wedyn.