Mae barnwr yn America wedi tynnu nyth cacwn yn ei ben ar ôl gohirio gwneud penderfyniad ynglyn â datgelu natur cwyn droseddol yn erbyn Julian Assange.

Mae ymgyrchwyr rhyddid y wasg bellach yn galw ar y barnwr Leonie Brinkema i ddatgelu manylion sydd wedi’u trafod mewn achos sydd â dim i’w wneud â sylfaenydd WikiLeaks, ond a gafodd eu crybwyll yn anfwriadol yn y llys.

Mae erlynwyr yn gwrthwynebu, gan honni nad oes gan y cyhoedd hawl i wybod am gyhuddiad yn erbyn unrhyw unigolyn nes ei fod yn cael ei arestio.

Mae llywodraeth yr Unol Daleithiau hefyd wedi pwysleisio nad yw’r honiad anfwriadol yn dystiolaeth bod Julian Assange yn euog.

Mae nifer o blatfformau newyddion wedi adrodd bod Julian Assange yn wynebu mwy o honiadau yn ei erbyn, ond eu bod yn cael eu cadw’n dawel ar hyn o bryd.

Mae wedi bod yn byw yn llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain ers 2012.