Mae nofiwr 42 oed wedi marw yn Awstralia ar ôl cael ei bigo gan forgath ddu.
Cafodd e drawiad ar ei galon ar draeth Lauderdale yn Tasmania ddydd Sadwrn (Tachwedd 17).
Roedd yn nofio ar ei ben ei hun cyn y digwyddiad, ac fe gafodd ei dynnu o’r môr gan ei ffrindiau, oedd wedi ceisio achub ei fywyd.