Mae rhai o ddioddefwyr y tanau gwyllt sy’n lledu trwy rannau helaeth o Galiffornia wedi cyflwyno her gyfreithiol yn erbyn cwmni ynni, gan ei gyhuddo o gychwyn y tân.
Mae’r her yn erbyn Cwmni Nwy a Thrydan y Cefnfor Tawel (PG&E) wedi’i chyflwyno i lys o fewn y dalaith.
Yn ôl y dioddefwyr, mae’r cwmni’n euog o fethu â chynnal a chadw ei linellau ynni yn iawn.
Mae pennaeth y cwmni eisoes wedi dweud nad yw’n gwybod sut dechreuodd y tân, gan ychwanegu bod ei gwmni’n cydweithio â’r awdurdodau wrth iddyn nhw ymchwilio.
Mae’n debyg bod PG&E wedi dweud wrth reoleiddwyr y dalaith yr wythnos ddiwethaf fod yna broblemau gydag un o’i llinellau trydan yn yr ardal lle dechreuodd y tân.
Yn ôl un perchennog tir yn y ardal, roedd wedi cael ei hysbysu gan y cwmni tua’r un adeg fod angen i swyddogion alw heibio oherwydd bod rhai gwifrau trydan yn gwreichioni.
Mae llefarydd ar ran PG&E wedi cadarnhau bod “gwifrau’n gwreichioni” yn un opsiwn sy’n cael ei ystyried gan yr awdurdodau.
Mae 48 o bobol wedi marw o ganlyniad i’r tanau gwyllt yn Califfornia yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ac mae disgwyl i’r ffigwr gynyddu wrth i nifer barhau i fod ar goll.