Mae 21,000 o gywion ieir wedi marw yn dilyn tân ar fferm ieir yn Swydd Gaerhirfryn.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r fferm ar Ffordd Rosemary, Preston, am tua 8yh neithiwr (dydd Mawrth, Tachwedd 13), lle roedd sied un llawr ar dân.

Roedd pum injan dân yn bresennol, ac yn dilyn pryderon y byddai’r fflamau’n lledu i adeiladau cyfagos, mae’r tân bellach o dan reolaeth.

Ar wahân i’r adar, ni chafodd neb eu hanafu, ac mae ymchwiliad i achos y digwyddiad ar y gweill.